Gorsaf niwclear Fukushima yn Japan
Bydd cyn Brif Weinidog Japan yn ymweld â safle gorsaf niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn heddiw i siarad yn erbyn ynni niwclear ar yr ynys.

Roedd Naoto Kan yn Brif Weinidog Japan adeg y trychineb yng ngorsaf bŵer niwclear Fukushima Daiichi yn dilyn daeargryn a tswnami yn 2011. Ymddiswyddodd Naoto Kan yn dilyn y trychineb.

Anghyfrifol

Ond mae Pŵer Niwclear Horizon, y cwmni sydd y tu ôl i orsaf niwclear Wylfa Newydd, wedi dweud y bydd yr orsaf yn cael ei “darparu’n ddiogel, ac er budd y gymuned.”

Mae Naoto Kan wedi dweud nad yw’n credu fod ynni niwclear yn ddiogel a’i fod yn rhy ddrud. Ychwanegodd fod buddsoddi mewn ynni niwclear yn “anghyfrifol” gan fod ynni adnewyddadwy yn datblygu gystal.

Gwella diogelwch

Ond mewn llythyr agored at Naoto Kan, mae Alan Raymant, prif swyddog gweithredu Pŵer Niwclear Horizon wedi tynnu sylw at record diogelwch gadarn y diwydiant niwclear yn y DU, ac yn fyd-eang, y rhan hollbwysig mae ynni niwclear wedi’i chwarae yn hanes diweddar Ynys Môn a’r camau cadarn a fydd yn cael eu cymryd i amddiffyn yn erbyn pob risg posibl i’r orsaf newydd.

Meddai hefyd nad yw’n “bosibilrwydd credadwy” y bydd Ynys Môn yn gweld yr amodau naturiol a arweiniodd at ddamwain Fukushima ond fod y diwydiant yn y DU wedi dysgu gwersi gwerthfawr o’r digwyddiad hwnnw er mwyn gwella diogelwch hyd yn oed rhagor.