Bydd gŵyl newydd yn cael ei chynnal yn Abertawe ddydd Sadwrn i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Ymhlith y digwyddiadau fydd gorymdaith Gŵyl Ddewi gynta’r ddinas ers chwarter canrif.

Cafodd y syniad o gynnal digwyddiad o’r fath ei grybwyll yn ystod Fforwm Iaith Abertawe ac fe fu’r trefnwyr – yn gyfuniad o Gymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg – wrthi’n paratoi ers rhai misoedd.

Ymhlith aelodau’r Fforwm ddaeth at ei gilydd roedd cynrychiolwyr o faes Cymraeg i Oedolion, busnesau lleol, dysgwyr a selogion canolfan Tŷ Tawe.

Fe fu Menter Iaith Abertawe yn allweddol yn y trefniadau, gan gydweithio â phlant a phobol ifanc i greu fflachdorf arbennig o ganeuon Cymraeg a fydd yn digwydd yn Sgwâr y Castell ac yn Amgueddfa’r Glannau.

Adloniant

Yn ystod y dydd, fe fydd Ffair Fwyd ‘Get Welsh’ yn y Sgwâr, ac mae’r papur newydd lleol, y South Wales Evening Post yn noddi’r digwyddiad.

Bydd y diwrnod yn dechrau am 10.30 y bore ar lwyfan perfformio yn Stryd Portland dan ofal Menter Iaith Abertawe, cyn i’r dathliadau symud draw i Sgwâr y Castell.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn canu ar lwyfan Stryd Portland mae Shelleyann Evans, a ymddangosodd ar raglen y BBC ‘The Voice’ yn ddiweddar, y diddanwr lleol Wynne Roberts, Côr Tŷ Tawe a Chôr Cefnogwyr y Gweilch.

Am 1.15yp, fe fydd yr orymdaith yn gadael y Sgwâr ac yn cyrraedd Amgueddfa’r Glannau am 2yp, lle bydd gweithgareddau i blant a theuluoedd.

Bydd yr adloniant yn parhau yn Sgwâr y Castell drwy gydol y prynhawn, gydag adloniant gan y band Kookamunga, Lowri Evans a Catrin Herbert, cyn i gêm Cymru yn erbyn Ffrainc gael ei dangos ar sgrin fawr am 5yh.

Bydd gig yn No Sign Wine Bar yn dechrau am 7yh, a’r prif artistiaid fydd Lowri Evans, Catrin Herbert, Yr Angen a Cadi Rhind.