George North nôl yn y tîm (Joe Giddens/PA)
Fe fydd George North yn dychwelyd i dîm Cymru i wynebu Ffrainc dydd Sadwrn wrth i Warren Gatland wneud pedwar newid i’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn yr Alban.
Mae’n golygu bod Alex Cuthbert allan o’r tîm, gyda Liam Williams yn cadw ei le ar yr asgell a Scott Williams yn cadw’i le ar y fainc.
Dau newid sydd i’r rheng flaen, gyda Samson Lee a Scott Baldwin yn dod i mewn yn lle Aaron Jarvis a Richard Hibbard, y ddau ohonyn nhw ar y fainc.
Mae Luke Charteris hefyd yn dod i mewn yn lle Jake Ball, sydd ddim yn y 23.
Ond does dim lle i Justin Tipuric yn y pymtheg unwaith eto, gyda blaenasgellwr y Gweilch yn gorfod bodloni ar le ymysg yr eilyddion.
Roedd North a Lee wedi methu’r fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban yn y gêm ddiwethaf ar ôl cael cyfergydion yn y golled agoriadol i Loegr.
Ond mae’r ddau nawr yn holliach, wrth i Gymru deithio i Baris yn chwilio am fuddugoliaeth fyddai’n cadw eu gobeithion o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw.
‘Penderfyniadau anodd’
Cyfaddefodd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland ei fod wedi wynebu penderfyniadau anodd wrth ddewis y tîm, gyda phawb nôl yn ffit ar ôl anafiadau.
“Roedd rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ond rydyn ni’n rhoi tîm cryf allan,” meddai Gatland.
“Mae gennym ni tipyn o ddyfnder yn yr ail reng, mae’n gyfle i Luke Charteris ddechrau ac mae Bradley Davies wedi creu argraff hefyd. Dim byd yn erbyn Jake [Ball] ond mae’n gyfle i weld y ddau arall.
“Mae’n gyfle i Scott Baldwin ddechrau hefyd, tro diwethaf iddo ddechrau fe wnaeth e’n dda yn y fuddugoliaeth dros Dde Affrica. Mae’n grêt cael Samson Lee nôl ac roedd y tri ôl yn anodd ond rydan ni wedi penderfynu mynd gyda Liam a George.
“Roedden ni’n teimlo ein bod ni wedi gwella yn erbyn yr Alban ac rydyn ni’n edrych am wellhad arall y penwythnos yma. Mae’n gystadleuaeth anodd pan rydych chi i ffwrdd o gartref ond dyna rydan ni’n chwilio am.”
Tîm Cymru i wynebu Ffrainc:
Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Liam Williams, Dan Biggar, Rhys Webb, Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Richard Hibbard, Paul James, Aaron Jarvis, Bradley Davies, Justin Tipuric, Mike Phillips, Rhys Priestland, Scott Williams.