Mae tasglu FIFA wedi argymell cynnal Cwpan y Byd Qatar 2022 ym mis Tachwedd a Rhagfyr er mwyn osgoi tymheredd uchel yn ystod yr haf.
Mewn cyfarfod yn Doha heddiw fe gadarnhaodd y tasglu mai dyna oedd yr opsiwn gorau, ac maen nhw hefyd yn awgrymu cwtogi ar hyd y twrnament.
Bydd pwyllgor gweithredol FIFA, yr awdurdodau pêl-droed, nawr yn pleidleisio ar y cynllun ym mis Mawrth i benderfynu’n derfynol.
Gwres llethol
Ers i Qatar gael ei dewis fel y wlad fyddai’n cynnal twrnament 2022 mae pryderon wedi bod ynglŷn â’r gwres llethol yn y wlad, sydd yn gyson dros 40 gradd Celsiws yn yr haf.
Ym mis Mehefin a Gorffennaf y mae Cwpan y Byd yn draddodiadol wedi cael ei chynnal erioed, ond mae’r tasglu wedi cytuno â nifer o arbenigwyr sydd wedi awgrymu na fydd hynny’n bosib yn Qatar er lles y chwaraewyr.
Fodd bynnag, mae clybiau mawr Ewrop wedi eu cythruddo gyda’r syniad o gynnal y twrnament yn y gaeaf, gan y bydd hyn yn tarfu ar eu tymhorau domestig nhw.
Dyna pam maen nhw wedi rhoi pwysau ar FIFA i leihau hyd y twrnament, sydd fel arfer yn parhau ychydig dros fis.
Does dim cynlluniau ar hyn o bryd i leihau nifer y timau fydd yn cystadlu o 32, na nifer y gemau lawr o 64, ond fe allai’r twrnament weld llai o ddyddiau gorffwys i dimau rhwng gemau.
Mynnodd ysgrifennydd cyffredinol FIFA Jerome Valcke nad oedd ganddynt lawer o ddewis, yn enwedig o gofio bod Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal ym mis Ionawr a Chwefror 2022.
“Mae un ateb i’w gael, Tachwedd-Rhagfyr,” meddai Jerome Valcke.
Herio’r penderfyniad?
Mae FIFA eisoes wedi cynnal ymchwiliad i gais Qatar a Rwsia, fydd yn cynnal Cwpan y Byd 2018, ar ôl awgrym o lwgrwobrwyo.
Yn ôl canfyddiadau’r adroddiad a gyhoeddodd FIFA roedd y ddwy wlad yn ddieuog o unrhyw gamymddwyn.
Ond gwrthododd FIFA ryddhau’r adroddiad yn llawn ac roedd y dyn fu’n gyfrifol am yr ymchwiliad, Michael Garcia, yn feirniadol iawn o’r ffordd yr oedd FIFA wedi dehongli ei adroddiad.
Doedd neb yn disgwyl i Qatar gael yr hawliau i gynnal Cwpan y Byd 2022 cyn y bleidlais gudd gan bwyllgor gweithredol FIFA, gyda gwledydd fel yr UDA, Siapan ac Awstralia ymysg y ceffylau blaen.
Mae Awstralia wedi awgrymu yn y gorffennol y gallan nhw ddwyn achos yn erbyn FIFA os yw Cwpan y Byd Qatar yn cael ei symud i’r gaeaf, gan fod y broses ymgeisio yn benodol yn dweud fod yn rhaid cynnal y gystadleuaeth yn yr haf.