Alun-Wyn Jones
Mae tîm rygbi Cymru yn “datblygu” o fewn twrnament y Chwe Gwlad eleni, yn ôl y clo Alun-Wyn Jones.

Ar ôl dechrau siomedig yn erbyn Lloegr, roedd y chwaraewr rhyngwladol yn siarad cyn i Gymru wynebu Ffrainc ym Mharis ar ddiwedd yr wythnos.

Mae Cymru wedi curo Ffrainc yng ngemau’r Chwe Gwlad yn ystod y tair blynedd ddiwetha’ ac fe fyddai buddugoliaeth arall yn rhoi hwb anferthol i’r chwaraewyr, meddai  Alun-Wyn Jones.

“Rydym yn tyfu yn y twrnament,” meddai Alun-Wyn Jones.

Ond nid yw’n anghofio am allu’r Ffrancwyr i feddiannu’r cae.

“Mae ganddyn nhw gymaint o chwaraewyr talentog. Os ydym yn colli’r wythnos nesa, mi fyddwn ni allan o’r gystadleuaeth fwy neu lai. Ond os ydan ni’n ennill, mae gennym ni siawns.”