Royston Jones
Mae dyn o Flaenau’r Cymoedd wedi cael dedfryd o bymtheg mlynedd yn y carchar wedi i lys ei gael yn euog o geisio llofruddio’i wraig mewn ward ysbyty.

Roedd Royston Jones, 39 oed, wedi mynd i mewn i uned gofal dwys Ysbyty Nevill Hall y Fenni a cheisio tagu ei wraig 35 oed, y nyrs Claire Jones.

Oni bai fod staff eraill wedi llwyddo i atal y gyrrwr faniau di-waith, fe glywodd Llys y Goron Casnewydd y byddai wedi lladd ei wraig.

Dan ddylanwad cyffuriau

Fe welodd y llys luniau cylch cyfyng o’r dyn yn mynd hyd goridorau’r ysbyty adeg y digwyddiad ym mis Medi – roedd heb ei grys a dan ddylanwad cyffuriau.

Roedd Claire Jones yn anymwybodol ar ddiwedd yr ymosodiad ac fe fu’n rhaid iddi gael triniaeth yn ei hysbyty ei hun.

Roedd y pâr priod wedi gwahanu a Royston Jones yn amau bod ei wraig yn cael perthynas gyda rhywun arall.

Fe gafodd Royston Jones, o Frynmawr, Blaenau Gwent, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.