Fe fydd aelodau staff Ysgol Penweddig yn Aberystwyth sy’n aelodau o undeb NASUWT yn cynnal streic dridiau’r wythnos nesaf.

Daw’r streic wedi i aelod staff gael ei ddiswyddo’n ddiweddar.

Mewn llythyr at rieni’r disgyblion, cadarnhaodd yr ysgol fod aelod staff wedi cael ei ddiswyddo ar ôl derbyn rhybudd terfynol ynghylch ymddygiad.

Mae’r streic yn effeithio ar 22 o aelodau staff sy’n aelodau o’r undeb.

Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion blynyddoedd 7-10, ond fe fydd gwersi blynyddoedd 11-13 yn parhau fel arfer.

Mae NASUWT wedi gwrthod gwneud sylw tan ddiwedd yr wythnos.