Mae’r chwilio’n parhau am fachgen 11 oed yn dilyn adroddiadau brynhawn ddoe ei fod e wedi disgyn i Afon Tywi.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ardal Tanerdy ger Caerfyrddin toc cyn 4 o’r gloch ddydd Mawrth, ac mae’r heddlu, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau, badau achub a thimau achub mynydd yn chwilio amdano.
Mae oddeutu 50 o bobol yn chwilio amdano, ond dydy’r heddlu ddim “100% yn sicr” ei fod e wedi mynd i’r dŵr.
Dywedodd yr Arolygydd Eric Evans: “Dydyn ni ddim 100% yn sicr bod y bachgen wedi mynd i’r dŵr ond rydyn ni’n eithaf hyderus ei fod e.
“Rydyn ni’n chwilio’r ardal yn drylwyr ac yn dilyn pob posibilrwydd er mwyn dod o hyd iddo.
“Fel heddlu, rydyn ni’n ymdrin ag adroddiadau o bobol ar goll bob dydd felly rydyn ni’n brofiadol iawn ac wedi’n hyfforddi’n dda, ac fe fyddwn yn systematig wrth i ni geisio dod o hyd iddo.”
Dydy’r bachgen ddim wedi cael ei enwi hyd yn hyn.
Ychwanegodd yr Arolygydd Evans: “Pan fyddwn ni wedi gwneud hynny, fe fyddwn ni’n edrych ar amgylchiadau’r digwyddiad.”
Mae teulu’r bachgen yn derbyn cefnogaeth yr heddlu.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau fod y chwilio wedi ail-ddechrau y bore ma.
“Mae gennym dimau Gwylwyr y Glannau o Lansteffan, Dinbych-y-Pysgod a Phorth Tywyn, ac mae hofrennydd yr Awyrlu wedi bod yn rhan o’r chwilio.”