Cyngor Sir y Fflint
Fe all trigolion Sir y Fflint dalu mwy o dreth gyngor nag a ragdybiwyd yn wreiddiol petai cynghorwyr yn pleidleisio o blaid y gyllideb newydd heddiw.
Y gred yw bod y cyngor yn ystyried cynnydd o 3.75% yn y dreth, sy’n uwch na’r 3% gwreiddiol a gafodd ei awgrymu.
Byddai’r newid yn golygu bod cartrefi Band D yn talu £37.06 yn ychwanegol y flwyddyn.
Mae’r cyngor yn chwilio am arbedion gwerth £18.2 miliwn dros y blynyddoedd nesaf.
Cyngor Sir y Fflint yw’r diweddaraf i ystyried codi’r dreth gyngor. Mae cynghorau ledled y wlad wedi gweld cynnydd o rhwng 3-5% ar gyfartaledd dros y flwyddyn ddiwethaf.