Fe fydd cynghorwyr Sir Ddinbych yn trafod cynnig i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ger Rhuthun yn ddiweddarach heddiw – ar ôl i’r Gweinidog Addysg wrthod y cynllun ychydig wythnosau yn ôl.

Dywedodd Huw Lewis bod “gwendidau technegol” ym mhroses graffu wreiddiol y cyngor ond mae aelod cabinet Cyngor Sir Ddinbych dros addysg yn gwadu hyn ac wedi mynnu nad oedd diffygion.

22 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol Eglwys yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae ymgyrchwyr sydd am ei gweld yn aros ar  agor, sy’n cynnwys Esgob Llanelwy, yn dweud bod niferoedd y disgyblion yn codi.

Er hyn, fe fydd y cyngor yn cynnal ail ymgynghoriad ar ei chau ac yn cyflwyno cynnig i’r cyngor llawn ym mis Mai.

‘Sarhad’

Dywedodd yr AC Ceidwadol lleol, Darren Millar, bod yr ymgynghoriad newydd yn “sarhad i ddisgyblion a rhieni” ac na fyddai’n rhoi’r gorau i ymgyrchu i achub yr ysgol.

Ychwanegodd: “Rwyf wedi fy synnu fod y cyngor wedi penderfynu mynd ati i gau’r ysgol mor fuan ar ôl i’r gweinidog wrthod y cynllun. Mae’n ergyd arall i’r gymuned yn hytrach na bod y cyngor yn selio ei benderfyniadau ar beth fyddai orau i addysg plant yr ardal.”

Hyblygrwydd

Ond yn ôl y Cynghorydd Eryl Williams, aelod cabinet Cyngor Sir Ddinbych dros addysg, mae’r cyngor am ddangos ei fod yn “hyblyg”:

“Y cwbl fyddwn ni’n ei wneud heddiw yw penderfynu ein bod ni yn dechrau ymgynghoriad oherwydd bod rhaid gwneud penderfyniad. Fe ddywedodd y gweinidog bod rhaid i ni wneud rhywbeth.

“Felly mi rydan ni am gynnal ymgynghoriad gyda’r bwriad o gau yn 2016.

“Roedd diffygion technegol yn yr adroddiad gwreiddiol, medde nhw, ond dydan ni ddim yn credu bod ’na ddiffygion. Roedd ‘na lot o bethau nad oedd yn gywir yn sylwadau’r gweinidog. Ond mi roedd 95% o’r ddogfen yn dangos cefnogaeth i gau’r ysgol.

“Mi fyddwn ni’n edrych yn agored ar y sefyllfa, a dyma fyddwn ni’n ei wneud hefo’r broses yma er mwyn dangos fod ‘na hyblygrwydd o fewn y cyngor.