Mae teulu dyn 24 oed oedd ar goll wedi cadarnhau mai ei gorff gafodd ei ddarganfod yng Nghyffordd Llandudno, Conwy ddoe.

Mewn datganiad byr i’r Daily Post, dywedodd teulu David Cripps ei fod yn berson hapus a bod ganddyn nhw lawer o feddwl ohono.

Daeth y chwilio am David Cripps i ben bnawn dydd Sul pan gafodd ei gorff ei ddarganfod yng Nghyffordd Llandudno.

Cafodd ei weld am y tro diwethaf yng ngarej y Black Cat am tua 5:00 fore Sadwrn.

Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, yn ôl yr heddlu.