Mae disgwyl i ddyn a gafodd ei ryddhau o garchar yn Indonesia ddychwelyd adre i Gymru yn ddiweddarach heddiw.
Cafodd Mathew Davies o’r Coed Duon ei ddedfrydu i 6 mis o garchar ar ôl i’w fisa ddod i ben.
Roedd y dyn 25 oed yn cael ei gadw yng ngharchar Cipinang yn Jakarta sydd wedi cael ei feirniadu gan Amnest Rhyngwladol.
Bu Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Ne Ddwyrain Cymru, Lindsay Whittle yn ymgyrchu er mwyn sicrhau bod Mathew Davies yn cael ei ryddhau.