Mae llai o feddygon y pen yng Nghymru nag yng ngweddill gwledydd Prydain, yn ôl y ffigurau diweddaraf, medd Plaid Cymru.
Yn ôl ystadegau’r Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd, mae gwledydd Prydain yn llusgo y tu ôl i’r rhan fwyaf o wledydd Ewrop o ran nifer y meddygon y pen o boblogaeth.
Dim ond yn Slofenia, Rwmania a Gwlad Pwyl mae’r gyfradd y pen yn is, ac mae 2.67 o feddygon y pen yng Nghymru ar hyn o bryd, sy’n is na chyfradd gwledydd Prydain gyda’i gilydd.
Dywed Plaid Cymru y bydd ei chynllun i recriwtio a hyfforddi mil o feddygon newydd yn cynnwys cyflwyno cymhellion ariannol i annog meddygon sydd wedi graddio i aros a gweithio yng Nghymru, cynyddu capasiti ysgolion meddygol Cymru, a buddsoddi ymhellach mewn recriwtio o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.
Sicrhau digon o feddygon ‘yn hanfodol’
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones: “Dengys y ffigurau bod y DU yn llusgo y tu ôl i’r rhan fwyaf o Ewrop pan ddaw’n fater o nifer meddygon.
“Os ydym am gyflwyno gwasanaethau GIG diogel a chynaliadwy, yna mae sicrhau bod gennym ddigon o feddygon i gyflawni’r gwaith yn hanfodol.
“Yng Nghymru, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn bwriadu canoli rhai gwasanaethau ysbyty brys mewn llai o lefydd oherwydd problemau recriwtio.
“Cyhoeddodd Plaid Cymru gynlluniau manwl am sut y gallwn hyfforddi a recriwtio mil yn ychwanegol o feddygon i GIG Cymru a mwy o feddygon teulu er mwyn cyflwyno gwasanaethau diogel a chynaliadwy.
“Yr ydym eisiau cynyddu’r llefydd addysg feddygol yn ysgolion meddygol Cymru, a chynnig croeso euraid er mwyn hyfforddi a recriwtio mewn ardaloedd a meysydd arbenigol lle mae anhawster recriwtio.
“Nid datganoli yw’r broblem yma – mae hynny’n amlwg o edrych ar safle’r Alban, sydd yn uwch o wyth safle na chyfartaledd y DG.
“Ond mae methiant i recriwtio gan Lywodraeth Lafur Cymru wedi gadael Cymru ymhell ar ei hôl hi.”