Dr Dai Lloyd
Mae ymgeisydd etholiadol Plaid Cymru yng ngorllewin Abertawe, Dr Dai Lloyd am weld Cymru’n cael yr hawl i ddeddfu ar yr un lefel â’r Alban.
Daw ei sylwadau yn dilyn dyfarniad gan y Goruchaf Lys yn Llundain ddydd Llun nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol yr hawl i orfodi cwmnïau i dalu am gostau meddygol gweithwyr sydd wedi dioddef o effeithiau asbestos.
Fe ddyfarnodd y llys bod y ddeddf, a gafodd ei phasio gan Aelodau Cynulliad yn 2013, y tu hwnt i bwerau deddfwriaethol y Cynulliad.
Yn ôl Dr Dai Lloyd, cyn-lefarydd iechyd ei blaid, mae penderfyniad y Goruchaf Lys yn dangos bod system lywodraethu Cymru’n israddol.
‘Sgandal’
Mewn datganiad, dywedodd y meddyg teulu o Abertawe: “Fe ddylai’r Blaid Lafur yn arbennig fod â chywilydd gyda’r drefn annigonol hon.
“Mae’n sgandal rhwystro Cymru rhag cael rheolaeth iawn o’r gwasanaeth iechyd – sydd i fod wrth galon datganoli.”