Mae dros filiwn o gartrefi a busnesau yng Nghymru wedi eu cysylltu â band llydan cyflym erbyn hyn, cyhoeddodd BT heddiw.
Mae’r garreg filltir, sydd wedi gweld cannoedd o swyddi yn cael eu creu ledled y wlad, wedi cael ei chroesawu gan Lywodraeth Cymru.
Caerdydd sydd a’r mwyaf o gartrefi wedi’u cysylltu â’r band llydan cyflym (130,000), gyda 90,000 yn Abertawe a 50,000 yn Wrecsam.
Yn sgil gwaith prosiect Superfast Cymru, mae BT wedi creu 250 o swyddi peirianneg llawn amser yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’.
‘Ar flaen y gad’
“Mae’r cyrhaeddiad ardderchog yma yn dangos yr effaith mae Superfast Cymru yn ei gael ar gymunedau Cymru,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
“Rydym yn parhau gyda’r gwaith o anelu at gael 96% o gartrefi Cymru wedi’u cysylltu â band llydan cyflym erbyn 2016 er mwyn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad gyda’r chwyldro digidol.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr BT Cymru, Ann Beynon: “Mae cysylltiad band cyflym yng Nghymru ar y blaen o’i gymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill fel Ffrainc, Sbaen a’r Eidal ac yn gyfartal a’r Almaen, ond mae mwy i’w wneud ac mi fyddwn ni’n ceisio cyflawni hyn cyn gynted ag sy’n bosib.”