Caerdydd
Mae cynllun sy’n datgelu sut y bydd Caerdydd, Casnewydd a Bryste yn cyd-weithio i geisio cryfhau’r economi wedi cael ei lansio.
Bydd y cynllun yn gweld arweinwyr y rhanbarthau yn trafod sut y bydd modd datblygu’r syniad o greu rhanbarth economaidd, sy’n cynnwys trafod cyflogaeth a sgiliau, trafnidiaeth, a chyfleoedd am ynni adnewyddadwy.
Daw wedi i arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale, rybuddio ym mis Tachwedd y byddai Caerdydd ar ei cholled os na fyddai’n cyd-weithio gyda dinas fawr arall fel Bryste.
Yn y lansiad yng Nghasnewydd, cyhoeddwyd bod y tair dinas ymysg y rhai mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain, gan gyfrannu £58 biliwn y flwyddyn at yr economi, ond bod modd iddyn nhw elwa hyd yn oed yn fwy.
Felly yn hytrach na chystadlu yn erbyn ei gilydd am fuddsoddiadau, fe fydd y dinasoedd yn cyd-weithio o dan y cynllun newydd.
‘Gwneud synnwyr’
“Rwy’n croesawu ymrwymiad Caerdydd, Casnewydd a Bryste i gynllun Dinasoedd Mawr y Gorllewin ac i weithio’n agosach gyda’i gilydd ar drafnidiaeth, cyflogaeth ac ynni adnewyddadwy,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb.
“Mae’n gynllun sy’n gwneud synnwyr cyffredin sydd a’r potensial i hybu economi de Cymru a denu masnach, buddsoddiad a’r bobol orau i’r ardal.”
Ychwanegodd Eluned Parrott, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr economi: “Mae economi Cymru angen prifddinas sy’n ffynnu, ond mae Caerdydd wedi methu allan ar brosiectau mawr yn amlach na pheidio o’i gymharu â dinasoedd eraill ym Mhrydain.
“Ond mae hi’n ansicr beth fydd yn digwydd i gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella rhanbarthau o fewn y wlad. Mae’n dweud cyfrolau am berthynas y Llywodraeth hefo awdurdodau lleol pan mae’r awdurdodau yn mynd ar eu trywydd eu hunain.”