Mae Stena Line wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn dod a gwasanaeth fferi o Gaergybi i Dun Laoghaire i ben.
Roedd Stena eisoes wedi canslo eu gwasanaethau rhwng Caergybi a Dun Laoghaire, tref tua 12km o Ddulyn, ar long yr HSS dros gyfnod y Nadolig.
Dywedodd y cwmni mai gostyngiad yn nifer y teithwyr a lleoliad agos harbwr Dun Laoghaire at brifddinas Iwerddon sydd wedi arwain at y penderfyniad.
Ar ei anterth, roedd y gwasanaeth, sydd wedi bod yn rhedeg ers 1995, yn cludo mwy na 1.7 miliwn o deithwyr y flwyddyn yn 1998.
Mae’r cwmni am ganolbwyntio ar ehangu’r gwasanaeth i Ddulyn ac wedi ymddiheuro i gwsmeriaid am unrhyw anghyfleuster.