Y Raspberry Pi
Mae Sony am greu 30 o swyddi newydd ar ei safle ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Daw’r newydd wedi i’r cwmni ddatgelu ei gyfrifiadur rhad newydd – y Raspberry Pi2 – heddiw.

Mae’r Rasperry Pi yn gyfrifiadur bach maint cerdyn credyd sydd wedi cael ei greu gyda’r bwriad o hyrwyddo gwyddoniaeth gyfrifiadurol sylfaenol mewn ysgolion.

Mae’r cit newydd yn costio £22.85 ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Sony ym Mhen-y-bont.

Gyda lawns y Raspberry Pi2, mae disgwyl i’r ffatri gynyddu cynhyrchiad o 18,000 uned i 80,000 uned yr wythnos.