Mae'r ffatri yn cynhyrchu diodydd Irn-Bru
Bydd ffatri cynhyrchu diodydd ym Mlaenau Gwent yn cau’r wythnos hon, ac fe all y penderfyniad olygu colli 67 o swyddi.

Bydd cwmni A G Barr, sy’n cynhyrchu diodydd Irn-Bru, yn cau ei ffatri yn Nhredegar ddydd Gwener gan symud y gwaith i Milton Keynes yn Lloegr.

Bydd rhai o weithwyr Tredegar yn cael y cyfle i symud i’r ffatri yn Milton Keynes gan y bydd rhai swyddi newydd yn cael eu creu yno.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Rydym yn diolch i bob un o’n gweithwyr yn Nhredegar am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb yn ystod ac ar ôl y cyfnod ymgynghori, ac rydym yn cydnabod cyfraniad y mae’r tîm wedi ei wneud at lwyddiant y busnes.”