Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi enwi tîm Cymru i wynebu Lloegr – deuddydd yn gynt na’r disgwyl.

Nid yw’r tîm yn cynnwys unrhyw enwau annisgwyl wrth i Gymru baratoi ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.

Cyhoeddwyd y tîm ar dudalen Twitter Undeb Rygbi Cymru’r bore ma gyda dim ond dau newid i’r tîm wnaeth drechu De Affrica ym mis Tachwedd – gyda’r asgellwr George North a’r bachwr Richard Hibbard yn dychwelyd i’r garfan.

Bydd capten Cymru, Sam Warburton, yn ennill ei 50fed cap i’r cochion.

Meddai hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Rydym yn penderfynu enwi’r tîm yn gynnar er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i’r chwaraewyr baratoi.

“Roedd hi’n benderfyniad anodd gwneud y ddau newid yr ydym wedi’u gwneud o’r ochr wnaeth guro De Affrica, ond mae’n dda cael penderfyniadau anodd ei gwneud ac mae’n sefyllfa gref i fod ynddi.”

Tîm Cymru i wynebu Lloegr:

Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Rhys Webb, Gethin Jenkins, Richard Hibbard, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones,  Dan Lydiate, Sam Warburton, Taulupe Faletau.

Eilyddion:  Scott Baldwin, Paul James, Aaron Jarvis, Luke Charteris, Justin Tipuric, Mike Phillips, Rhys Priestland, Liam Williams.