Rheolwr Abertawe, Garry Monk
Fe fydd rheolwr Abertawe, Garry Monk yn gobeithio am fuddugoliaeth yn erbyn ei gyn-glwb wrth i’r Elyrch deithio i Southampton heddiw.

Ymunodd Monk ag Abertawe o Southampton fel chwaraewr yn 2004.

Fe fydd rhaid i’r Elyrch ymdopi heb Gylfi Sigurdsson, sydd wedi’i wahardd am dair gêm ar ôl cael ei anfon o’r cae yn erbyn Blackburn yng Nghwpan yr FA.

Roedd amheuon am ffitrwydd y capten Ashley Williams yn dilyn anaf i’w ysgwydd, ond mae’r amddiffynwr canol wedi’i enwi yn y tîm.

Ond un fydd yn dychwelyd yn dilyn gwaharddiad yw’r chwaraewr canol-cae, Jonjo Shelvey.

Bydd Kyle Naughton ymddangos yng nghrys Abertawe am y tro cyntaf yn dilyn ei drosglwyddiad o Spurs.

Southampton yw un o brif sgorwyr yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, ac maen nhw’n anelu am le yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf ar ôl hanner cyntaf disglair y tymor hwn.

Dim ond unwaith y mae’r Elyrch wedi ennill oddi cartref mewn naw ymgais ers diwrnod agoriadol y tymor yn Old Trafford.

Mewn gemau yn erbyn ei gilydd, Southampton fu’n fuddugol yn y tair gêm diwethaf, ac maen nhw’n ddi-guro yn y chwe gêm diwethaf rhwng y ddau dîm.

Dydy Abertawe ddim wedi ennill yn eu 10 ymweliad diwethaf â Southampton, a daeth eu buddugoliaeth diwethaf oddi cartref 62 o flynyddoedd yn ôl pan oedden nhw yn yr hen Ail Adran.

Dim ond QPR, Burnley a Chaerlŷr sydd wedi sgorio llai o bwyntiau na’r Elyrch oddi cartref.

Bydd y gêm yn fyw ar Sky Sports 1, a’r gic gyntaf am 4 o’r gloch.

Abertawe: Fabianski, Naughton, Fernandez, Williams (c), Taylor, Fulton, Carroll, Shelvey, Dyer, Emnes, Gomis. Eilyddion: Tremmel, Rangel, Amat, Barrow, Tiendalli, Oliveira, Grimes

Southampton: Forster, Clyne, Yoshida, Fonte (c), S Davis, Tadic, Ward-Prowse, Pelle, Bertrand, Elia, Reed. Eilyddion: K Davis, Gardos, Mane, Targett, Seager, Gape