Fe fydd James Sheekey a Seb Davies yn chwarae dros y Gleision am y tro cyntaf pan fyddan nhw’n herio Wasps yng Nghwpan LV ar brynhawn dydd Sul.
Ellis Jenkins fydd capten y tîm wrth iddyn nhw roi gêm i rai o’r chwaraewyr ar gyrion y garfan yn sgil absenoldeb bechgyn Cymru.
Ac un o’r chwaraewyr sydd wedi cael ei orffwys yw’r prop Adam Jones, a gyhoeddodd yr wythnos hon ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl cael ei adael allan o garfan Cymru.
Cymysgedd o ieuenctid a phrofiad
Craig Mitchell, Rhys Williams a Tom Davies fydd yn y rheng flaen, gyda Miles Normandale yn ymuno â Seb Davies yn yr ail reng a Macauley Cook yn y rheng ôl gyda Sheekey a Jenkins.
Rhys Patchell fydd yn dechrau fel maswr, gyda Lewis Jones yn fewnwr ac Adam Thomas a Garyn Smith yng nghanol cae.
Mae’r ddau Archentwr Lucas Amorosino a Joaquin Tuculet yn y tri chefn yn ogystal â Richard Smith.
Ac fe ddywedodd rheolwr ieuenctid y Gleision Richard Hodges ei fod yn gyfle i’r chwaraewyr ifanc brofi eu hunain.
“Mae hon yn gyfle arall i’r chwaraewyr ar gyrion y tîm cyntaf gamu lan a chael profiad o rygbi rhanbarthol,” meddai Richard Hodges.
“Mae’n grêt cael Ellis yno eto i arwain y grŵp a helpu i godi’r safonau, gyda chefnogaeth pobl fel Macauley Cook, Craig Mitchell, Rhys Williams a Rhys Patchell.”
Tîm y Gleision: Joaquin Tuculet, Richard Smith, Garyn Smith, Adam Thomas, Lucas Amorosino, Rhys Patchell, Lewis Jones; Thomas Davies, Rhys Williams, Craig Mitchell, Miles Normandale, Seb Davies, Macauley Cook, Ellis Jenkins (capt), James Sheekey.
Eilyddion: Liam Belcher, Brad Thyer, Dillon Lewis, Ben Roach, Jordan Viggers, Tomos Williams, Simon Humberstone, Geraint Walsh.