Fe fydd Nick Crosswell yn chwarae dros y Dreigiau am y tro cyntaf pan fyddan nhw’n herio Caerwysg yng Nghwpan LV dros y Sul.

Mae’r blaenasgellwr 28 oed newydd symud i Gymru o Seland Newydd i ymuno â rhanbarth Rodney Parade.

Mae’n un o 12 newid i garfan y Dreigiau ar gyfer Cwpan LV, gan gynnwys ymddangosiad i Carl Meyer yn y canol ochr yn ochr â’r capten Ashley Smith.

Fe fydd y pâr ifanc Matthew Screech a Cory Hill yn dechrau yn yr ail reng wrth i’r Dreigiau orffwys rhai o’u chwaraewyr.

Mae’r fainc yn un gymharol amhrofiadol hefyd gyda Rhys Buckley, Owen Evans, David Young, Joe Davies a Scott Matthews i gyd yn dod i mewn.

Ond mae’r Dreigiau wedi cadw ambell un o’u hen bennau yn y tîm hefyd gan gynnwys yr wythwr Andy Powell a’r mewnwr Richie Rees.

Tîm y Dreigiau: Geraint Rhys Jones, Tom Prydie, Carl Meyer, Ashley Smith (capt), Ashton Hewitt, Dorian Jones, Richie Rees; Lloyd Fairbrother, Hugh Gustafson, Dan Way, Matthew Screech, Cory Hill, Nick Crosswell, James Benjamin, Andy Powell.

Eilyddion: Rhys Buckley, Owen Evans, David Young, Joe Davies, Scott Matthews, Luc Jones, Angus O’Brien, Jack Dixon.