Fe fydd Ken Owens yn dychwelyd i dîm y Scarlets am y tro cyntaf mewn pedwar mis ar ôl gwella o anaf i’w wddf.

Dyw capten y Scarlets heb chwarae ers mis Medi oherwydd yr anaf, ond mae’n dychwelyd i arwain y tîm yn erbyn Gwyddelod Llundain yng Nghwpan LV dydd Sadwrn.

Mae’r prop pen rhydd Phil John hefyd yn dychwelyd o anaf i gryfhau’r rheng flaen, ac fe fydd Steven Shingler yn chwarae fel maswr yn erbyn ei gyn-glwb.

Cyfle i’r ifanc

Gan fod chwaraewyr rhyngwladol y Scarlets wedi gadael y garfan bellach ac ambell un arall yn cael gorffwys, mae cyfle i rai o chwaraewyr ifanc y rhanbarth wneud eu marc.

Mae Lewis Rawlins, Phil Day a Will Boyde ymysg y chwaraewyr fydd yn gobeithio manteisio ar y cyfle yn y pymtheg fydd yn dechrau, ac mae’r clo ifanc o Awstralia Jack Payne ar y fainc.

Ac yn ogystal â rhoi cyfle i’r chwaraewyr ifanc ddangos eu doniau mae hyfforddwr y Scarlets yng Nghwpan LV yn falch o weld wynebau profiadol yn ôl yn y garfan.

“Mae’n hwb enfawr i gael Ken a Phil nôl, maen nhw’n dod a lot o brofiad ac mae’n mynd i helpu ein props ifanc i chwarae ochr yn ochr â chwaraewyr o’u profiad nhw dros yr wythnosau nesaf,” meddai Ioan Cunningham.

Tîm y Scarlets: Josh Lewis, Harry Robinson, Frazier Climo, Adam Warren, Kristian Phillips, Steven Shingler, Rhodri Williams; Phil John, Ken Owens (capt), Peter Edwards, George Earle, Lewis Rawlins, Phil Day, Will Boyde, Rory Pitman

Eilyddion: Darran Harris, Wyn Jones, Jacobie Adriaanse, Jack Payne, Sion Bennett, Kieran Hardy, Dan Jones, Kyle Evans