Mae disgwyl oedi hir ar ffordd A449 ger Brynbuga am gryn amser yn dilyn gwrthdrawiad yn gynnar y bore ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 6.18yb yn dilyn y digwyddiad ar yr A449 i gyfeiriad y de, wedi i ddyn gael ei daro gan gar.

Mae’r ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad rhwng Rhaglan a chyffordd 24 yr M4 ger Coldra, ac mae’n bosib y gallai’r digwyddiad achosi oedi ar yr M50 a’r M4 ger Casnewydd wrth i draffig gael ei ddargyfeirio.