Saith Seren
Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn agor swyddfa newydd yng nghanolfan y Saith Seren yn Wrecsam fory er mwyn hyrwyddo eu gwaith yn rhanbarth Clwyd.
Fe gadarnhaodd y mudiad wrth golwg360 mai dim ond rhan amser y byddai’r swyddfa ar agor am y tri mis cyntaf, ac nad oedden nhw wedi cadarnhau pryd fyddai hynny eto.
Ond bwriad Cymdeithas yr Iaith fydd sefydlu presenoldeb hir dymor yn y ganolfan yn Wrecsam, sydd yn marchnata ei hun fel hwb i weithgareddau Cymraeg yn y dref.
Ehangu’r ‘frwydr iaith’
Fe fydd y swyddfa yn adeilad y Saith Seren yn cael ei hagor yn swyddogol yfory.
Ac fe ddywedodd Cadeirydd Rhanbarth Clwyd Cymdeithas yr Iaith, Aled Powell, fod y mudiad wedi dewis Wrecsam yn fwriadol er mwyn ceisio ehangu ei phresenoldeb mewn ardal lai Cymreig.
“Mae ein penderfyniad fel mudiad i leoli ein swyddfa ranbarthol yn nhref Wrecsam, yn hytrach nag yn un o drefi mwy Cymreig siroedd Conwy a Dinbych yn dangos ymroddiad y mudiad o fynd â’r frwydr iaith i bob cymuned yn ein gwlad,” esboniodd Aled Powell.
“Rwyf felly yn annog pawb sydd â diddordeb yn y datblygiad pwysig hwn i ymuno â ni yn y Saith Seren ar nos Sadwrn Ionawr 31 am 5.00yh, er mwyn bod yn rhan o’r datblygiad hwn.
“Yn y bôn, yr un ydi’r frwydr yng Nghlwyd a gweddill Cymru, a rydwyf fel Cadeirydd y Rhanbarth yn falch iawn o benderfyniad y mudiad i gartrefu swyddfa Clwyd yn y dref.”
Incwm i’r Saith Seren
Cafwyd croeso i’r newyddion gan Gadeirydd y Saith Seren, Marc Jones, a ddywedodd fod y cam hwn yn gwireddu amcanion y ganolfan o weld mudiadau cenedlaethol a lleol yn perchnogi’r adeilad.
Esboniodd hefyd y byddai’r incwm ychwanegol o logi’r swyddfa o gymorth i’r Saith Seren yn dilyn toriadau i fudiadau eraill oedd yn golygu nad oedden nhw’n medru defnyddio’r ganolfan bellach.
“Mae o’n rhywbeth i’w groesawu o’n rhan ni achos bwriad y ganolfan oedd creu hub i fudiadau, ac yn ddiweddar mae’r fenter iaith oedd efo swyddfa barhaol yn y ganolfan wedi gorfod tynnu allan oherwydd colli grant,” meddai Marc Jones wrth golwg360.
“Felly mae cael y Gymdeithas yma yn ogystal â lot o ddosbarthiadau Cymraeg yn help ac yn ategu’r gwaith rydan ni’n trio ei wneud.
“Oherwydd toriadau i fudiadau gwirfoddol a thrydydd sector dydi’r incwm yna ddim cymaint ag y buasem ni’n gobeithio – dyna pam ei fod o’n fendigedig fod y Gymdeithas wedi penderfynu sefydlu swyddfa yn y Saith Seren.”