Y diweddar Huw Edwards
Mae teyrngedau wedi cael eu talu i’r diweddar Gynghorydd Huw Edwards a fu farw ddoe.
Cafodd ei ddisgrifio gan ei gydweithwyr a’i ffrindiau fel dyn ffraeth, llawn hiwmor a oedd yn “Gymro i’r carn”.
Yn enedigol a Ddwyran, Môn ac wedi ei fagu ym Methel roedd Huw Edwards wedi cynrychioli ward Cadnant yng Nghaernarfon ar Gyngor Gwynedd ers 2005. Bu hefyd yn faer ar y dref deirgwaith ac yn Gynghorydd Tref Caernarfon.
Dywedodd y Cynghorydd Sian Gwenllïan amdano: “Roedd Huw yn Gymro i’r carn, yn ffraeth, yn annibynnol ei farn, yn ddyn ei bobol. Bydd colled fawr ar ei ôl. Cofion annwyl at y teulu.”
‘Barod i ymladd’
Yn ychwanegol i’w waith elusennol, roedd Huw Edwards “bob amser yn barod i ymladd yn ddigyfaddawd” dros ei etholwyr, meddai Cadeirydd Cyngor Gwynedd, Dewi Owen.
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Gwasanaethodd Huw Gaernarfon, Gwynedd a Chymru yn ddiflino a chydag urddas.
“Roedd ei wleidyddiaeth y tu hwnt i ystyriaethau pleidiol ac roedd ei gymeriad hoffus a serchus yn golygu iddo ymwneud â phawb yn ddiwahân. Dymunaf gydymdeimlo a’i wraig Tegwedd, eu genethod, Nia a Non, ynghyd â’r teulu oll. Diolch am fywyd Huw, a’i gyfraniad, a’i wasanaeth.”
Mewn teyrnged ar ei dudalen facebook, dywedodd yr Aelod Seneddol Hywel Williams: “Roedd Huw yn was triw iawn i’w wlad ac i bobol Caernarfon, fel Cynghorydd a Maer uchel ei barch.
“Bu’n gymorth mawr imi yn fy ngwaith, ac roeddwn yn gwerthfawrogi ei gyfeillgarwch.
“Mi fyddai’n colli ei gwmni a’i hiwmor, fel y gwn y bydd llawer o’i ffrindiau. Estynnaf fy nghydymdeimlad diffuant â’i deulu. Da was da a ffyddlon.”