Y Cynghorydd Sian Gwenllïan
Mae Pwyllgor Iaith Cyngor Gwynedd yn unfrydol eu beirniadaeth o fudiad tai am beidio â chynnwys y Gymraeg fel sgil hanfodol ar gyfer swyddi rheoli ar gyflogau bras.
Mynnodd y pwyllgor fod Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) wedi mynd yn groes i’w Gynllun Iaith ei hun, ac y byddai’r penderfyniad yn arwain at “grebachu nid hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg”.
Mae dros 95% o weithwyr CCG yn siarad Cymraeg a dyna yw iaith gwaith y corff.
Mae’r Cynghorydd Sian Gwenllïan eisoes wedi ymddiswyddo o fwrdd rheoli’r mudiad tai mewn protest ynglŷn â’r sefyllfa, ac mae Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws hefyd wedi galw am oedi yn y broses recriwtio.
Mae’r Comisiynydd bellach wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn ymateb i’w llythyr at CCG.
“Gallwn gadarnhau fod ymateb i lythyr Comisiynydd y Gymraeg dyddiedig 6 Ionawr 2015 wedi ei dderbyn,” meddai llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg.
“Mae’r Comisiynydd a’i swyddogion yn ystyried cynnwys y llythyr.”
‘Agor y drws’
Mewn cynnig a gafodd ei basio yn unfrydol gan Bwyllgor Iaith y cyngor honnwyd y byddai penderfyniad CCG i beidio â gofyn am siaradwyr Cymraeg ar gyfer yr uchel swyddi yn gallu “agor y drws i gyrff eraill ddilyn yr un llwybr”.
Dywedodd aelodau’r pwyllgor hefyd y byddai’n ergyd i weledigaeth Cyngor Gwynedd ynglŷn â’r Gymraeg, gan fynnu y dylai CCG barchu polisi iaith yr awdurdod lleol a’i creodd hi.
“Mae Strategaeth Iaith Gwynedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cyfeirio mewn sawl lle at bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ac wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd,” meddai’r cynnig gan y pwyllgor iaith.
“Mae hefyd yn pwysleisio’r angen i fwy o gyrff ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd i normaleiddio’r Gymraeg fel iaith gweinyddiaeth a chyfathrebu mewnol.”
Y cynnig gafodd ei basio ddoe, yn llawn:
Cred y Pwyllgor fod penderfyniad diweddar Cartrefi Cymunedol Gwynedd i beidio cynnwys y Gymraeg fel sgil hanfodol ar gyfer dwy o’i uwch-swyddi :
- yn mynd yn groes i Gynllun Iaith y corff
- yn mynd i arwain at grebachu nid hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gan y gweithlu a’r corff
- y mynd i agor y drws i gyrff eraill ddilyn yr un llwybr
- y mynd i greu risg sylweddol hollol annerbyniol i’r iaith Gymraeg
- yn mynd i greu risg sylweddol i weledigaeth Cyngor Gwynedd ynglŷn â’r Gymraeg
- yn mynd i greu risg sylweddol i weledigaeth Strategaeth Iaith Gwynedd sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Gabinet a Chyngor Gwynedd a phartneriaid allweddol yn y sir
- yn mynd yn groes i gyngor Comisiynydd y Gymraeg sydd wedi galw am oedi’r broses
Mae’r Pwyllgor Iaith
1)Yn galw ar Cartrefi Cymunedol Gwynedd i lynu at ei Gynllun Iaith Gymraeg yn yr achos penodol yma ac i’r dyfodol.
- Cyngor Gwynedd roddodd fodolaeth i’r corff, i gyflawni un o wasanaethau pwysicaf y sir ar ran y Cyngor, sef darparu cartrefi. Mae dyletswydd ar CCG i barchu polisi iaith Gwynedd.
- Mae’r Saesneg yn gymhwyster hanfodol, a hynny’n cael ei gymryd yn ganiataol, ar gyfer pob swydd gyhoeddus yng Nghymru. Nifer cymharol fechan o swyddi sy’n gofyn am y Gymraeg fel cymhwyster hanfodol, er mwyn tegwch a’r rhai sydd am gael gwasanaeth yn Gymraeg. Mae’n bwysig iawn nad ydym yn ildio dim gyda’r swyddi hynny.
2)Yn gofyn am gefnogaeth hunaniaith , yn sgil ei ymrwymiad i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith ei bartneriaid ymhob sector o fywyd Gwynedd, i ddwyn pwysau ar gyrff fel CCG i gryfhau, a chynnal, eu polisïau a’u Cynlluniau Iaith.
- Mae Strategaeth Iaith Gwynedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cyfeirio mewn sawl lle at bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ac wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd.
- Mae hefyd yn pwysleisio’r angen i fwy o gyrff ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd i normaleiddio’r Gymraeg fel iaith gweinyddiaeth a chyfathrebu mewnol.
3) Yn gofyn am adroddiad cynhwysfawr erbyn y cyfarfod nesaf yn edrych ar ‘y gwersi i’w dysgu’ o’r achos penodol yma gan ofyn am gyd-weithrediad Comisiynydd y Gymraeg a chyrff eraill megis hunaniaith wrth baratoi’r adroddiad.
4) Yn gofyn am argymhellion clir ynglŷn a pha gamau ychwanegol sydd angen eu cyflwyno i sicrhau fod cyrff gwirfoddol ac eraill yn cadw at lythyren eu polisïau iaith pan fo allanoli/trosglwyddo cyfrifoldebau oddi wrth Cyngor Gwynedd yn digwydd.
5)Yn galw am eglurhad llawn o gyfrifoldebau cynghorwyr Gwynedd sydd yn enwebeion Cyngor Gwynedd ar gyrff allanol o safbwynt gwarchod ein polisi iaith, gan nodi fod disgwyl iddynt gyflawni eu swyddogaethau drwy ddilyn persbectif Cyngor Gwynedd a modd o gyfathrebu hynny i holl gynghorwyr Gwynedd.
6)Rydym yn galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i egluro’r sefyllfa statudol bresennol o ran Cynlluniau Iaith gwahanol gyrff . O gofio’r newid sydd ar droed yn sgil cyhoeddi’r Safonau Iaith, fydd yn berthnasol i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus, rydym yn galw am eglurhad gan Gomisiynydd y Gymraeg am statws cyrff hyd braich ac elusennau o ran y Safonau.
CEFNDIR
Cartrefi Cymunedol Gwynedd
Mae Cynllun Iaith Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn cynnwys yr amcanion canlynol:
1.2.1 Galluogi pawb sy’n defnyddio gwasanaeth neu gysylltu gyda’r Gymdeithas i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl dewis personol.
1.2.2 Sicrhau gwasanaethau Cymraeg a Saesneg o ansawdd uchel.
1.2.3 Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
1.2.4 Annog eraill i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg.
1.2.5 Hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gweinyddu mewnol CCG gan ddarparu cyfleon hyfforddiant i staff i ddatblygu a gwella eu sgiliau a’i hyder ieithyddol yn y Gymraeg.
………………………………………………………………………….