Mae Llywodraeth De Affrica wedi datgelu fod Eugene de Kock, arweinydd cyrchoedd llofruddio adeg apartheid, wedi cael parôl ar ôl treulio dau ddegawd yn y carchar.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Michael Masutha na fydd amser na lleoliad rhyddhau de Kock yn cael ei ddatgelu i’r cyhoedd.

Y llynedd fe wrthododd Mr Masutha apêl de Kock am barôl, gan ddweud nad oedd wedi ymgynghori gyda theuluoedd y rhai laddwyd.

Roedd y cyrchoedd llofruddio yn targedu’r rheiny oedd yn cael eu hamau o wrthwynebu goruchafiaeth y gwynion adeg apartheid.