Leighton Andrews
Mae Llywodraeth Cymru wedi ennill gwobr am gynllun i annog gweithwyr i hyfforddi i fod yn filwyr wrth gefn.

Fe fydd y wobr yn cael ei derbyn gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, mewn seremoni yng Nghaerdydd heno.

Wrth dderbyn, mae disgwyl iddo ddweud bod y sgiliau sy’n cael eu dysgu wrth hyfforddi i fod yn filwr wrth gefn yn ddefnyddiol iawn yn y gweithlu hefyd.

Balchder

Mae’r Wobr Arian yn cael ei chyflwyno gan y Weinyddiaeth Amddiffyn – rhan o gynllun Efydd, Arian ac Aur i gyflogwyr sy’n annog gweithwyr i fod yn filwyr wrth gefn.

“Mae milwyr wrth gefn yn bobol weithgar ac ymroddgar dros ben,” meddai Leighton Andrews cyn y seremoni.

“Mae’r hyfforddiant yn eu galluogi i drosglwyddo sgiliau fel gwneud penderfyniadau, cyfathrebu, arweinyddiaeth a gweithio mewn tîm i’w bywydau bob dydd. Rydym yn falch o’n milwyr wrth gefn ac yn cydnabod yr angen i’w cefnogi.”

Mae’r Llywodraeth hefyd yn cynnig cerdyn braint i gyn aelodau o’r lluoedd arfog ac maen nhw’n dweud bod pob un o 22 cyngor sir Cymru wedi arwyddo Cyfamod Corfforaethol gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn.