John a Margaret Kehoe
Mae crwner wedi dyfarnu mai trwy ddamwain y cafodd pedwar aelod o’r un teulu eu lladd wedi i’w car wyro i ganol ffordd yr A44 ger Aberystwyth y llynedd.

Bu farw’r perthnasau o Lanidloes – John Kehoe, 72; ei wraig Margaret, 65; partner i ferch y cwpl, Martin Pugh, 47; a’i nith ef Alison Hind, 28 – yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tancer a fan ar y ffordd rhwng Llangurig a Phonterwyd.

Fe wnaeth merch fach Alison Hind, oedd yn 18 mis oed ar adeg y ddamwain, oroesi.

Clywodd y cwest yn Y Trallwng bod gyrrwr y tancer wedi gweld y car yng nghanol y ffordd eiliadau cyn y gwrthdrawiad.

Dyfarnodd y crwner Andrew Barkley fod y pedwar wedi marw o ganlyniad i ddamwain.

Beirniadaeth

Wedi’r gwrthdrawiad, fe fu beirniadaeth yn lleol i ddiogelwch y ffordd, gyda rhai yn dweud ei bod yn un o’r ffyrdd peryclaf ym Mhrydain.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd y byddan nhw’n ystyried cyflwyno gwelliannau i’r A44.