Mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu nad oes cynlluniau ar y gweill i symud arfau niwclear Trident o’r Alban i Gymru.
Roedd honiadau yn y Daily Mail heddiw bod Llywodraeth San Steffan wedi cynnal trafodaethau cudd i ystyried y posibilrwydd o symud Trident o Faslane i Aberdaugleddau.
Ond mewn ymateb cryno fe ddywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones nad oedd hynny am ddigwydd.
“Mae Amddiffyn yn fater sydd heb ei ddatganoli ac mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd y llynges Trident Brydeinig yn aros yn yr Alban,” meddai’r llefarydd.
Carwyn yn cefnogi?
Nôl yn 2012 yn dilyn cwestiynau’r Prif Weinidog, fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai’n croesawu Trident i Aberdaugleddau pe byddai’r posibiliad yn codi eu bod yn symud o Faslane yn y dyfodol.
Ond nid oedd y Prif Weinidog am wneud sylw pellach ynglŷn â’r honiadau sydd wedi codi heddiw.
Yn ôl adroddiad y Daily Mail mae Llywodraeth Prydain wedi cynnal y trafodaethau cudd mewn ymateb i boblogrwydd yr SNP ym mholau piniwn yr etholiad cyffredinol.
Mae’r SNP yn gwrthwynebu cadw arfau Trident, a phetai nhw’n ennill digon o seddi ym mis Mai fe allan nhw fod yn dylanwadu ar Lywodraeth San Steffan.