Yr Arglwydd Dafydd Wigley
Fe ddylai pobol o Gymru sy’n byw yn Lloegr ystyried pleidleisio dros y Blaid Werdd yn yr etholiad cyffredinol nesaf, yn ôl y dyn sy’n gyfrifol am ymgyrch etholiadol Plaid Cymru.

Wrth siarad yn San Steffan heddiw, fe wnaeth yr Arglwydd Dafydd Wigley hefyd alw ar gefnogwyr y Blaid Werdd ym Môn, Ceredigion a Llanelli i bleidleisio’n dactegol dros Blaid Cymru.

Dywedodd y byddai dychwelyd grŵp cryf o ASau i San Steffan fis Mai – Plaid Cymru yng Nghymru, y Blaid Werdd yn Lloegr a’r SNP yn yr Alban – yn golygu y byddai’r pleidiau yn medru cael yr effaith fwyaf posib ar Dŷ’r Cyffredin gan ddarparu agenda amgen ystyrlon.

‘Gwahaniaeth mawr’

“Roedd dros 400,000 o bobol yn y Cyfrifiad diwethaf yn Lloegr yn disgrifio’u hunain fel Cymry yn unig neu Gymry a Phrydeinig,” meddai Dafydd Wigley.

“Os fysa’r rheiny yn gwrando ar y cais yma, fe allen nhw wneud gwahaniaeth mawr i’r Llywodraeth nesaf.

Ychwanegodd: “Mae Plaid Cymru, yr SNP a’r Gwyrddion yn bleidiau ar wahân gydag amcanion a pholisïau clir eu hunain. Serch hyn, mae’r tair plaid yn cyd-weithio i ffurfio un Grŵp yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Yn wir, cafodd Cynog Dafis, AS Plaid Cymru, ei ethol ym 1992 fel AS dros Geredigion ar blatfform Plaid-Gwyrdd.

“Ar bynciau allweddol megis llymder, Trident, a symud grym gwleidyddol i ffwrdd o San Steffan, mae’r tair plaid yn rhannu agwedd debyg; ac ar faterion amgylcheddol maent yn aml yn gytûn.”

Cryfhau’r ymgyrch

Gyda’r etholiad yma yn debygol o fod yn un o’r rhai agosaf ers cenhedlaeth, mae arbenigwyr yn ansicr a fydd ‘na fwyafrif yn y Senedd i un blaid neu hyd yn oed os oes posibilrwydd am glymblaid.

Ychwanegodd Dafydd Wigley: “Mae polau diweddar yn awgrymu fod ein pleidiau yn debygol iawn o ddal cydbwysedd grym yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn yr etholiad, mae’r tair plaid yn cynnig agenda amgen i hen bolisïau aflwyddiannus y Torïaid a’r Blaid Lafur.

“Dan yr amgylchiadau hyn, credaf y dylai cefnogwyr Plaid Cymru – ac yn wir pob Cymro a Chymraes – sy’n byw a phleidleisio yn Lloegr yn yr etholiad hwn ystyried o ddifri pleidleisio dros y Blaid Werdd, yn enwedig yn y deuddeg sedd darged ac yn Brighton Pavilion ble mae’r Gwyrddion yn dal y sedd.

“Gwneir y cynnig hwn heb unrhyw awgrym o quid-pro-quo ffurfiol, nac ymgyrch ar y cyd chwaith. Serch hyn, yng Nghymru, ble fo ymgeiswyr Gwyrdd yn sefyll mewn etholaethau sydd eisoes yn seddi Plaid Cymru neu a siawns realistig o droi yn rhai, dylai pleidleiswyr sy’n cefnogi agenda’r Gwyrddion ystyried pleidleisio dros Blaid Cymru – er mwyn cryfhau’r tîm ar y cyd yn y Senedd newydd.”