Mae trafodaethau cudd wedi cael eu cynnal gan weinidogion Llywodraeth Prydain i geisio symud Trident o Faslane yn yr Alban i Aberdaugleddau yng Nghymru, yn ôl adroddiad yn y Daily Mail heddiw.

Dywedodd y papur fod y trafodaethau wedi cael eu cynnal am y posibilrwydd o symud yr arfau niwclear yn dilyn twf sylweddol yr SNP ym mholau piniwn yr etholiad cyffredinol.

Mae arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi dweud bod sgrapio Trident yn un o’r amodau cyn y byddai’n ystyried clymbleidio gyda’r Blaid Lafur.
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthod yr honiadau o drafodaethau cudd a mynnu eu bod am aros ble maen nhw, ond yn ôl y ffynhonnell ddirgel fe fyddai’n “esgeulus” anwybyddu’r posibiliad o geisio symud Trident i fannau eraill mewn cynllun argyfwng.

Yr SNP yn dod i rym?

Petai’r SNP yn ennill cymaint o seddi yn yr etholiad cyffredinol ag sy’n cael ei ddarogan yn y polau ar hyn o bryd, fe allen nhw fod mewn safle o rym yn San Steffan ar ôl mis Mai.

Fe groesawodd yr SNP bôl piniwn diweddar oedd yn dangos fod  53% o boblogaeth yr Alban yn erbyn adnewyddu Trident, polisi y maen nhw hefyd yn ei arddel.

Nôl yn 2012 yn dilyn cwestiynau’r Prif Weinidog, fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai’n croesawu Trident i Aberdaugleddau pe byddai’r posibiliad yn codi eu bod yn symud o Faslane yn y dyfodol.

Mae’r Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol wedi ymrwymo i gadw Trident yn y dyfodol fel mesur o amddiffyniad ataliol.

Mae’r SNP a Phlaid Cymru wedi datgan yn chwyrn eu bod yn erbyn y penderfyniad i adnewyddu Trident.