Y Goruchaf Lys
Mae teulu dynes 25 oed a gafodd ei llofruddio gan ei chyn-gariad wedi colli apêl yn y Goruchaf Lys i ddwyn achos yn erbyn yr heddlu am esgeulustod.

Cafodd Joanna Michael o Laneirwg ger Caerdydd ei llofruddio gan ei chyn-gariad Cyron Williams, 19 oed, yn 2009.

Roedd hi wedi ffonio 999 ddwywaith yn dilyn yr ymosodiad ond clywodd y Goruchaf Lys fod “methiannau unigol a systematig” yn golygu nad oedd y gwasanaethau brys wedi ei chyrraedd mewn pryd i achub ei bywyd.

Penderfynodd Llys Apêl yn 2012 fod gan yr heddlu’r hawl i gael eu hamddiffyn rhag cael achos yn eu herbyn am esgeulustod yn ystod ymchwiliad neu wrth geisio atal trosedd.

Cafodd y dyfarniad hwnnw ei gefnogi gan y Goruchaf Lys heddiw o fwyafrif o 5 i 2, wrth i’r teulu ddadlau bod eu hawliau dynol wedi’u hesgeuluso am nad oedd yr heddlu wedi achub ei bywyd.

Dywedodd Nichola Bowen ar ran teulu Joanna Michael wrth y Goruchaf Lys fod yr achos yn “hynod bwysig”, yn enwedig o ystyried yr elfen o drais yn y cartref.

Dywedodd wrth y barnwyr: “Mae angen i’r heddlu fod yn fwy atebol yn dilyn sgandalau ac ymchwiliadau diweddar sydd wedi cael effaith andwyol ar hyder y cyhoedd a gwleidyddion yng ngwasanaethau’r heddlu.”

Clywodd y llys fod Joanna Michael wedi’i lladd yn giaidd gan Cyron Williams, ar ôl iddo dorri i mewn i’w thŷ “yn llawn cenfigen” ar ôl iddo ddarganfod ei bod hi mewn perthynas â dyn arall ar ôl i’w perthynas nhw ddod i ben.

Roedd ganddyn nhw berthynas dreisgar, meddai, ac fe gafodd Williams ei garcharu am o leiaf 20 mlynedd.

Y cefndir

Ffoniodd Joanna Michael 999 am y tro cyntaf am 2.29yb ar Awst 5, 2009, gan ddweud wrth Heddlu Gwent bod Williams wedi dod i’w chartref a’i darganfod hi gyda dyn arall.

Dywedodd fod Williams wedi’i brathu ac wedi cipio’r dyn arall a’i yrru i ffwrdd yn ei gar, gan fygwth dychwelyd i’w lladd hithau.

Byddai ymateb brys gan yr heddlu’n golygu y bydden nhw wedi’i chyrraedd o fewn pum munud, meddai’r cyfreithiwr.

Ond cafodd yr alwad ei throsglwyddo i Heddlu Gwent, ac nid i Heddlu’r De, gan olygu bod oedi cyn ymateb.

Wrth drafod y mater â Heddlu’r De, dywedodd derbynnydd yr alwad fod Williams wedi bygwth ‘taro’ Joanna Michael, heb sôn am y bygythiad i’w lladd hi.

Clywodd y llys y dylai’r alwad fod wedi cael ei huwchraddio er mwyn ymateb ar unwaith, ond ni ddigwyddodd hyn.

Siaradodd Joanna Michael â Heddlu Gwent unwaith eto am 2.43yb, ac mi gafodd ei chlywed yn sgrechian cyn i’r alwad ddod i ben.

Cyrhaeddodd yr heddlu ei chartref am 2.51yb, ac roedd Joanna Michael eisoes wedi cael ei thrywanu 72 o weithiau.

Dywedodd cyfreithiwr y teulu bod y ffaith nad oedd yr heddlu wedi ei chyrraedd mewn pryd yn golygu nad oedden nhw wedi gallu achub ei bywyd.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu eisoes wedi dweud bod Heddlu’r De a Heddlu Gwent wedi methu ag amddiffyn Joanna Michael.