Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cofnodi ei ffigurau gwaethaf erioed o ran ymateb i achosion brys.

Yn ol ffigurau Llywodraeth Cymru, dim ond 42.6% o ambiwlansys oedd wedi ymateb i  alwadau Categori A (perygl i fywyd ar unwaith) o fewn y targed o wyth munud – gostyngiad o bron i 10% ers mis Tachwedd, pan oedd y ffigwr yn 51%.

Mae Llywodraeth Cymru am i’r gwasanaeth ymateb i 65% o alwadau brys o fewn wyth munud.

Dywedodd Tracy Myhill, prif weithredwr dros dro y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru ei bod yn derbyn bod y ffigurau yn “annerbyniol” ond dywedodd bod poblogaeth sy’n heneiddio a mwy o bobl gyda salwch tymor hir yn golygu bod rhagor o bwysau ar y gwasanaeth.

Cafodd parafeddygon yng Nghymru eu galw i 40,147 o achosion brys, cynnydd o 11.2% ers mis Tachwedd 2014, a chynnydd o 7.6% ar ffigyrau mis Rhagfyr 2013.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y ffigurau’n dangos y pwysau aruthrol sydd wedi bod ar y gwasanaeth ambiwlans yn ystod mis Rhagfyr.

“Roedd y galw ar y gwasanaeth yn ddigynsail. Serch hynny mae’r ffigurau yn siomedig a does dim dwywaith bod angen gwella’r perfformiad.”

Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r gwasanaethau ambiwlans brys yn derbyn hwb ariannol gwerth £11m gan Lywodraeth Cymru.

‘Anfaddeuol’

Wrth ymateb i’r ffigurau dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, eu bod yn “anfaddeuol” ac y “dylai Llywodraeth Cymru fod a chywilydd.”

“Mae’r ffaith fod rhai ardaloedd yn gweld cyfraddau mor isel â 30% ar gyfer galwadau brys yn anfaddeuol.

“Er bod ’na gynnydd mawr yn nifer y galwadau brys o’i gymharu â’r mis blaenorol, does dim esgus am fethiant ar y raddfa enfawr hon.

“Mae staff y GIG a pharafeddygon yn gweithio’n hynod o galed ac yn gwneud gwaith eithriadol o anodd, ac rydym ni i gyd yn ddiolchgar amdano, ond maen nhw’n cyfaddef yn breifat nad ydyn nhw’n cael yr adnoddau maen nhw eu hangen i wasanaethu pobl Cymru.”

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew R T Davies hefyd wedi beirniadu’r ffigurau gan ddweud bod angen gweithredu ar frys.

“Mae’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau difrifol iawn,” meddai.

‘Dim syndod’

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones nad oedd y ffigyrau yn syndod gan fod “ambiwlansys wedi bod yn aros tu allan i ysbytai i gael mynediad i adrannau brys dros yr wythnosau diwethaf.”

Ychwanegodd: “Fy mhryder i yw, tra bod ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai mae ’na rannau helaeth o Gymru sy’n cael eu gadael heb ambiwlans  am gyfnodau hir ar y tro.”