Tripoli
Mae cangen o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Libya wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad ar westy yn y wlad ddoe a laddodd 10 o bobol.
Roedd Americanwr a phedwar o bobol Ewropeaidd ymhlith y rhai fu farw yng ngwesty Corinthia yn Tripoli.
Mewn datganiad, dywedodd y grŵp, sy’n galw eu hunain yn ‘Islamic State in Tripoli Province’ mai diben yr ymosodiad oedd dial am farwolaeth Abu Anas al-Libi.
Cafodd Al-Libi ei gipio gan wasanaethau arbennig yr Unol Daleithiau, ac fe fu farw yn y ddalfa o ganlyniad i gymhlethdodau’n dilyn llawdriniaeth ar ei afu.
Abu Ibrahim al-Tunsi ac Abu Suleiman al-Sudani oedd y ddau oedd wedi cwblhau’r ymosodiad, yn ôl y gangen.