Adam Jones
Mae Adam Jones wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi ryngwladol ar unwaith.

Daw penderfyniad Jones lai nag wythnos wedi iddo gael ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond mae’r prop 33 oed yn mynnu ei fod e wedi gwneud ei benderfyniad ddiwedd y flwyddyn diwethaf ar ôl colli ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref.

Samson Lee yw dewis cyntaf Warren Gatland erbyn hyn yn safle’r prop pen tynn, ac mae Aaron Jarvis a Scott Andrews yn dynn wrth ei sodlau.

Enillodd Jones 95 o gapiau dros Gymru, a phum cap dros y Llewod.

Wrth gyhoeddi’r garfan yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Gatland fod y “drws yn dal ar agor” i Adam Jones, a’i fod yn cael ei ystyried ar gyfer Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.

Ymddangosodd Jones yng nghrys Cymru am y tro olaf yn Durban haf diwethaf, wrth i Gymru golli o 38-16 yn erbyn De Affrica.

Dywedodd Adam Jones wrth y Sunday Times: “Ro’n i’n siomedig iawn i golli allan yn yr hydref.

“Fe ddywedais i wrtho i’n hunan bryd hynny y bydden i’n hyfforddi gorau gallwn i a thrio bod mor ffit ag y gallwn i.

“Pe na bai’n digwydd, yna fe fyddwn i’n rhoi’r gorau iddi.

“Yn amlwg nid dyma’r ffordd ro’n i am i bethau orffen, a nid dyma sut y cynlluniais i’r peth yn fy mhen, a gobeithio nad oes unrhyw un yn meddwl ’mod i jyst yn rhoi’r gorau iddi.”

Mae Jones yn bwriadu parhau i chwarae dros ranbarth y Gleision.