Scarlets 3 – 26 Toulon

Roedd Galacticos Toulon yn rhy gryf i’r Scarlets wrth i’r tîm o’r Gorllewin orffen eu hymgyrch Ewropeaidd ar waelod Grŵp 3.

Roedd byd o wahaniaeth rhwng y ddau dîm oedd yn wynebu ei gilydd ar Barc y Scarlets – ar un llaw, Toulon gyda’n agos at 500 o gapiau gan y XV oedd yn dechrau, ac yna tîm Scarlets wedi’i chwalu gan anafiadau ar y llall.

Wrth i’r cawr o ganolwr, Mathieu Bastareaud, groesi’r gwyngalch am gais cyntaf yr ymwelwyr funudau wedi’r gic gyntaf, roedd perygl iddi fod yn grasfa. Ond chwarae teg i’r Scarlets, fe wnaethon nhw ddangos digon o galon a rhoi gêm i’r cewri er gwaethaf gwahaniaeth sgôr cyfforddus ar y diwedd.

Er i’r tîm cartref ddangos digon o gymeriad, doedd dim amheuaeth pwy fyddai’n fuddugol.

Croesodd asgellwr De Affrica, Bryan Habana, am ail gais i’r ymwelwyr yn yr ail hanner ac roedd cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny’n gywir gyda’i droed gan gyfrannu 13 pwynt.

Roedd y tîm cartref yn edrych yn beryglus wrth ymosod ar adegau, ond dro ar ôl tro roedd y blaenasgellwr o Sais Steffon Armitage yn ddraenen yn eu hystlys yn ardal y dacl, a doedd dim syndod iddo gael ei enwi’n seren y gêm.

I rwbio halen yn y briw i’r Scarlets creodd Ulster dipyn o syndod yng ngêm olaf y grŵp wrth guro Caerlŷr 26 – 7, gan olygu eu bod yn neidio i’r trydydd safle gan adael rhanbarth y Gorllewin ar waelod y grŵp.

Scarlets: Steven Shingler; Harry Robinson, Regan King, Scott Williams (c), Hadleigh Parkes; Rhys Priestland, Aled Davies; Rob Evans, Ryan Elias, Peter Edwards, George Earle, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, John Barclay, Rob McCusker.

Eilyddion: Darran Harris, Wyn Jones, Jacobie Adriaanse, Sion Bennett, Rory Pitman, Rhodri Williams, Josh Lewis, Kristian Phillips.