Cyngor Sir Benfro
Fe allai Sir Benfro gael ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd, gyda chyfres o argymhellion yn cael eu hystyried dan gynlluniau newydd gan Gyngor Sir Benfro i drawsnewid addysg uwchradd yn y sir.
Fe fydd cynghorwyr yn pleidleisio wythnos nesaf ar argymhellion i gau ysgolion Dewi Sant yn Nhyddewi a Tasker Millward yn Hwlffordd, gan sefydlu Ysgol Gyfrwng Cymraeg i blant rhwng 3-16 oed yn Hwlffordd.
Cynhelir cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Benfro ar Ionawr 29 i drafod ymhellach adolygu addysg uwchradd yng nghanol a gogledd orllewin Sir Benfro ynghyd ag addysg gyfrwng Cymraeg yn y sir.
Ysgol y Preseli yng Nghrymych yw’r unig ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg yn y Sir ar hyn o bryd.
- Ymhlith y cynlluniau sy’n cael eu ffafrio yw cau Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Tasker Milward a sefydlu ysgol newydd cyfrwng Saesneg 11-16 ar safle presennol Syr Thomas Picton. Bydd y rhai dros 16 yn cael eu haddysg mewn canolfan chweched dosbarth integredig newydd.
- Cau ysgolion Ysgol Bro Gwaun ac Ysgol Dewi Sant a sefydlu ysgol newydd cyfrwng Saesneg 11-16 oed (gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg) ar safle presennol Ysgol Bro Gwaun a chynnig darpariaeth ol-16 mewn canolfan chweched dosbarth integredig newydd.
- Cau Ysgol Gymraeg Glan Cleddau a sefydlu ysgol 3-16 oed, cyfrwng Cymraeg/dwyieithog newydd ar safle presennol Ysgol Tasker Milward ac addysg ôl-16 i gael ei ddarparu yn Ysgol y Preseli.
‘Calonogol’
Wrth ymateb i’r argymhellion i ad-drefnu addysg Sir Penfro dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith:
“Er ei bod yn galonogol bod y cyngor yn cynyddu darpariaeth Gymraeg drwy agor ysgol 3-16 yn Hwlffordd byddwn ni am wybod beth fydd capasiti’r ysgol – a fydd hi’n ddigon o faint? Rhaid gofyn hefyd pam nad oes darpariaeth ar gyfer y chweched dosbarth fel rhan o’r argymhellion? Pam fyddai disgyblion sydd wedi derbyn eu haddysg yn Hwlffordd yn dewis mynd yr holl ffordd i Ysgol y Preseli yn hytrach nag i Goleg Sir Penfro?
“Rydyn ni hefyd yn annog cynghorwyr i beidio fod dan gamargraff y bydd creu ysgol newydd drwy gyfuno ysgolion Dewi Sant a Bro Gwaun – ond mai cau Ysgol Dewi Sant sydd i bob pwrpas, fydd yn ergyd i’r economi leol. Pam lai na ellid creu ysgol dau safle, a defnyddio’r cyfle i newid categori iaith yr ysgol i 2A, fel bod disgyblion yn derbyn rhan sylweddol o’u haddysg drwy’r Gymraeg?”
Dinbych y Pysgod
Ychwanegodd Bethan Williams: “Rydym am eu hannog hefyd i beidio colli cyfle i wella’r ddarpariaeth yn ardaloedd Dinbych y Pysgod, ble bydd ysgol gynradd Gymraeg yn cael ei hagor flwyddyn nesaf a Doc Penfro ble mae’r uned Gymraeg yn llawn. Fydd darpariaeth uwchradd Cymraeg yn Hwlffordd yn gwneud fawr ddim gwahaniaeth iddyn nhw.
“Bydd yr hyn fydd yn cael ei benderfynu wythnos nesaf yn effeithio ar y sir gyfan am flynyddoedd i ddod felly mae’n hollbwysig fod sicrhau mynediad rhwydd at addysg Gymraeg ar draws y sir.”