Mae Plaid Cymru, yr SNP, a’r Blaid Werdd wedi cael gwahoddiad i ymuno a’r tair prif blaid a Ukip mewn dwy ddadl deledu, o dan gynlluniau newydd sydd wedi cael eu cyflwyno gan ddarlledwyr.
Yn ôl y Radio Times, fe fydd y BBC ac ITV yn cynnig cynnal dadleuon sy’n cynnwys y saith plaid wleidyddol fel rhan gynlluniau newydd sy’n cael eu trafod gan wleidyddion prynhawn ma.
Ond fe fydd y ddadl sy’n cael ei drefnu gan Channel 4 a Sky News yn parhau i gynnwys David Cameron ac Ed Miliband yn unig.
Daw’r tro pedol gan y darlledwyr ar ôl i David Cameron fygwth peidio cymryd rhan yn y dadleuon petai Ukip yn cael gwahoddiad ond nid y Blaid Werdd.
Mae’r darlledwyr yn bwriadu cyhoeddi’r cynlluniau newydd yfory.
O dan y cynlluniau gwreiddiol fe fyddai’r dadleuon ar y BBC wedi cynnwys y tair prif blaid yn unig, gydag arweinydd Ukip, Nigel Farage yn ymuno a’r ddadl ar ITV.
Mae’n debyg nad yw Channel 4 a Sky News yn bwriadu newid eu cynlluniau.
‘Egwyddor ddemocrataidd bwysig’
Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:
“Mae Plaid Cymru’n croesawu’r cynlluniau newydd a gyflwynir gan ITV a’r BBC.
“Rydym wedi dadlau o’r cychwyn ei fod yn egwyddor ddemocrataidd bwysig y dylai pobl gael darlun clir o’r dewis fydd yn eu hwynebu ar ddiwrnod yr etholiad.
“Mae hon yn fuddugoliaeth sylweddol i’r nifer helaeth o bobl sydd wedi ymgyrchu dros gynnwys y pleidiau gwrth-lymder yn y dadleuon hyn.
“Rwy’n edrych mlaen at gymryd rhan a gwneud yr achos dros sicrhau’r llais cryfaf posib i Gymru yn San Steffan drwy gefnogi Plaid Cymru fis Mai.”
Mae disgwyl i’r Blaid Werdd gael ei chynrychioli gan ei harweinydd Natalie Bennett, gyda Nicola Sturgeon yn cynrychioli’r SNP.