Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi ysgrifennu at y darlledwyr mwyaf i ofyn iddyn nhw gynnwys dadl deledu Gymreig yn yr amserlen cyn yr etholiad cyffredinol, er mwyn rhwystro diffyg democratiaeth.
Yn ei llythyr, dywedodd Leanne Wood bod gan bobol Cymru yr hawl i graffu ar arweinwyr y pleidiau gwleidyddol ar faterion Cymreig a Phrydeinig.
Mae adroddiadau sydd heb eu cadarnhau yn dweud bod y Blaid Werdd a’r SNP am gael ymuno a dadl deledu gyda’r arweinwyr Llafur, Ceidwadol a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond nad yw Plaid Cymru wedi ei chynnwys.
Mae Leanne Wood eisoes wedi gofyn i dair prif blaid San Steffan i gynnal dadl yng Nghymru cyn mis Mai.
Egwyddor
Meddai llythyr Leanne Wood i’r darlledwyr: “Mae’n egwyddor ddemocrataidd bwysig bod y cyhoedd yn cael darlun clir o’r dewis sy’n eu hwynebu ar ddiwrnod y pleidleisio ac rwy’n credu bod dyletswydd arnoch i sicrhau bod yr arweinwyr yn adlewyrchu’r dewis hwnnw.
“Rydym yn gwybod o’r profiad yn 2010 bod y dadleuon teledu yn cael effaith ar ganlyniadau’r etholiad ac fe fyddai felly yn annerbyniol pe bai Plaid Cymru yn cael ei hamddifadu o’r cyfle i fod yn rhan ohono.”