Mae ymchwil newydd yn dangos mai’r Cymry yw’r mwyaf anhapus yn eu gwaith yng ngwledydd Prydain.
Dangosodd yr ymchwil nad oedd 58% o Gymry yn teimlo eu bod yn y swydd orau iddyn nhw, gyda hanner yn cyfaddef fod eu swyddi presennol yn eu rhwystro rhag canfod eu swydd ddelfrydol.
Ond er i nifer fynegi anfodlonrwydd yn eu swyddi, nid oedd y rhan fwyaf yn ystyried mynd i’r afael a’r mater yn 2015.
Er bod 63% o weithwyr Cymru yn ystyried ail-hyfforddi fel nod yn eu gyrfa, dim ond 5% o bobl wnaeth adduned i ddechrau cyrsiau hyfforddi yn 2015, yn ôl gwaith ymchwil gan Golegau Stonebridge.