Mae nifer y bobol sy’n ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng ychydig i 103,000, sef cyfradd o 7% yn ystod y flwyddyn diwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Roedd 5,000 yn llai o bobl yn ddi-waith o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, pan oedd y nifer yn 108,000.

Ond fe gynyddodd diweithdra o’i gymharu â’r tri mis rhwng Mehefin ac Awst, pan oedd 94,000 o bobl yn ddi-waith.

Er bod 4,000 yn fwy wedi cael eu cyflogi rhwng mis Medi a Thachwedd, roedd 9,000 yn fwy o bobol Cymru hefyd yn ddi-waith yn y cyfnod hwn meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Ar draws Prydain, fe wnaeth y gyfradd o bobol sy’n ddi-waith ostwng o 6% i 5.8% gan olygu bod 30.80 miliwn o bobol mewn swyddi – 37,000 yn fwy na’r tri mis blaenorol o Fehefin i Awst.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod cyflogaeth yng Nghymru wedi aros yn sefydlog ond yn uwch na’r cyfartaledd hanesyddol, gyda nifer y bobol sy’n ddi-waith yn is na’r cyfnod hwn y llynedd.

“Mae llonyddwch economaidd yng Nghymru wedi lleihau dros y chwarter diwethaf a diweithdra ymysg yr ifanc yn parhau i ddisgyn yn gynt yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.

“Mae ein polisïau yn gwneud gwahaniaeth ac yn cefnogi economi Cymru, gan helpu i greu mwy o swyddi a chyfleoedd i weithwyr ledled y wlad.”

Pobol ifanc

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi croesawu’r ffaith bod mwy o bobol ifanc mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant yng Nghymru erbyn hyn, o’i gymharu ar un cyfnod y llynedd.

Dangosodd ffigyrau’r ONS bod 9,100 (8.3%) o bobol ifanc 16-18 oed ddim mewn gwaith ym mis Medi 2014 – gostyngiad o’r 12,900 oedd ddim yn gweithio yn 2013.

“Mae’r ffigyrau’n dangos cynnydd da i economi Cymru a bod mwy o bobol ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial,” meddai Stephen Crabb.

Gwelwyd hefyd bod nifer y bobol sy’n hawlio budd-daliadau yng Nghymru wedi disgyn o 1,300 ym mis Rhagfyr.

‘Diffyg uchelgais’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru “ddyblu ei ymdrechion” i leihau nifer y di-waith:

“Mae diffyg uchelgais yn y cynllun i greu swyddi ac mae wedi ei dargedu’n wael. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddyblu ei ymdrechion i leihau diweithdra yng Nghymru, yn enwedig i’r rhai sydd allan o waith yn yr hir dymor.

“Rydym wedi gweld ychydig o welliant, ond mae dal angen mynd i’r afael a’r problemau sylfaenol yn ein heconomi.”

‘Potensial’

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth: “Mae’r cynnydd mewn diweithdra o’r mis diwethaf wedi parhau i mewn i 2015 ac mae hynny’n bryderus.

“Fe fu’r economi yn gwella o ran creu swyddi, ond yn 2014 fe welwyd gostyngiad mawr mewn perfformiad – cafodd 43,000 o swyddi eu colli yng Nghymru’r llynedd

“Mae gan Gymru’r potensial i gyfateb a pherfformiad y DU a hyd yn oed i ragori arno, ond er mwyn i hynny ddigwydd mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu.”