Mae cwmni ynni SSE yn wynebu ymchwiliad gan Ofgem dros bryderon ei fod wedi rhoi ei gystadleuwyr o dan anfantais.
Mae’r corff sy’n goruchwylio’r farchnad ynni yn ymchwilio i weld os wnaeth SSE dorri’r gyfraith drwy fanteisio ar berchnogion tai ac adeiladau newydd oedd heb benderfynu pa gwmni fyddai’n darparu eu hynni.
Mae Ofgem eisiau cynyddu cystadleuaeth yn y maes ac am i wefannau cymharu prisiau hefyd sicrhau nad oes rhai bargeinion yn cael eu celu rhag y cyhoedd.
Daw’r ymchwiliad ar adeg pan mae sylw ar y cwmnïau ynni mawr wrth i dri chwmni – E.ON, Nwy Prydain a Scottish Power – ddweud y bydden nhw’n torri eu prisiau yn dilyn cwymp mewn pris craidd nwy.