Heddlu Ffrainc yn dilyn yr ymosodiadau brawychol
Mae pedwar dyn sydd â chysylltiadau gydag un o’r dynion arfog oedd yn gyfrifol am dridiau o ymosodiadau brawychol yn Ffrainc wedi cael eu cyhuddo.

Dyma’r cyhuddiadau cyntaf ers i 17 o bobol gael eu lladd yn yr ymosodiadau ar Swyddfa Charlie Hebdo ac mewn archfarchnad Iddewig ym Mharis rhwng 7 a 9 Ionawr.

Mae’r pedwar dyn yn cael eu hamau o roi cefnogaeth i Amedy Coulibaly – wnaeth saethu plismones yn farw ar gyrion Paris cyn cymryd pobl yn wystlon mewn archfarchnad Iddewig a lladd pedwar ohonyn nhw.

Mae’r dynion, sydd i gyd yn eu 20au, yn cael eu cadw yn y ddalfa wrth i ymchwiliadau barhau.

Credir fod gan dri o’r pedwar record droseddol yn barod, a bod o leiaf un wedi cyfarfod Amedy Coulibaly yn y carchar.

Mae pump arall a gafodd eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad wedi cael eu rhyddhau.