Sammy Almahri
Mae’r broses o estraddodi Sammy Almahri, sy’n cael ei amau o lofruddio dynes mewn gwesty yng Nghaerdydd ar Nos Galan, wedi dechrau.

Cafodd y dyn o Efrog Newydd ei arestio gan heddlu yn Tanzania ddoe, wedi iddo ffoi i’r wlad yn dilyn marwolaeth Nadine Aburas, 28, o Gaerdydd.

Fe gafodd hi ei darganfod yn farw mewn ystafell wely yng ngwesty’r Future Inn tua hanner nos ar Nos Galan.

Bu’r Heddlu De Cymru yn gweithio ar y cyd gyda lluoedd Efrog Newydd a Tanzania i geisio dod o hyd i Sammy Almahri.

Wedi iddo gael ei arestio ddoe, dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley o Heddlu De Cymru: “Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth sydd wedi symud yn gyflym ac yn cynnwys heddluoedd o dri chyfandir – ac rydym ni’n arbennig o ddiolchgar am y cydweithrediad proffesiynol a gawsom gan yr heddlu yn Tanzania.”