Mae un o gynghorwyr Plaid Cymru wedi cyhuddo Cyngor Wrecsam o atal datblygiad addysg Gymraeg yn y sir ac o anwybyddu’r galw amdano.
Trwy dorri grant o £23,000 i Fudiad Meithrin yn ardal Wrecsam, mae’r cyngor yn lleihau’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i blant ifanc “yn fwriadol”, yn ôl y cynghorydd Arfon Jones.
Mudiad Meithrin yw’r unig ddarparwr addysg Gymraeg yn y sector gwirfoddol yn Wrecsam a chredir ei fod yn rhoi addysg gynnar cyfrwng Cymraeg i tua 700 o blant, meddai Arfon Jones.
“Nid yw’r toriadau arfaethedig hyn wedi cael eu hystyried yn llawn ac nid yw’r effaith wedi cael ei asesu’n ddigonol,” meddai Arfon Jones.
Mae’r cynghorydd wedi ysgrifennu at Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, i gwyno am y toriadau.
Y cyngor yn gwrth-ddweud polisi
Mae Arfon Jones yn honni bod y cyngor yn gwrth-ddweud un o’i bolisïau trwy dorri cyllid Mudiad Meithrin ac y byddai’n arwain at lai fyth o blant a phobol ifanc yn y sir yn siarad Cymraeg.
“Fe fydd unrhyw doriad i gyllid addysg feithrin i’w weld yn nifer y disgyblion Cymraeg fydd yn mynd i ysgolion cynradd ac uwchradd Wrecsam.
“Mae’n gwrth-ddweud un o flaenoriaethau honedig Cyngor Wrecsam, sef i gynyddu nifer y plant a phobol ifanc fydd yn symud ymlaen i addysg Gymraeg. Ni fydd hyn yn digwydd os yw’r cyllid yn cael ei dorri.”
Diffyg brwdfrydedd
“Ond beth sy’n fy mhoeni fwyaf ynglŷn â’r broses hon yw’r rhesymeg y tu ôl iddo, a’i fod yn ymdrech bwriadol i atal y galw am addysg Gymraeg yn y sir,” ychwanegodd Arfon Jones.
“Rwy’n gobeithio y bydd Huw Lewis yn cymryd sylw o’m llythyr ac yn gwrthod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y cyngor.
“Dylai hefyd herio diffyg brwdfrydedd y cyngor i hybu dyheadau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg ac, yn fwy pwysig, i beidio trin yr Iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.”