Leanne Wood
Bydd arweinydd Plaid Cymru yn datgelu cynigion ei phlaid am greu Comisiwn Brenhinol ar Gysylltiadau Diwydiannol a Hawliau Gweithwyr yn San Steffan heddiw.

Yn ystod ei haraith, bydd Leanne Wood AC yn dweud bod yn rhaid ymdrin â lefelau gwael o dâl ac amodau ym Mhrydain, ond bod yn rhaid hefyd cael newid sylfaenol mewn cyfranogiad gweithwyr yn y man gwaith a swyddogaeth gryfach i undebau llafur.

Mae disgwyl iddi hefyd bwysleisio ymrwymiad Plaid Cymru i weld “codi’r isafswm cyflog i’r cyflog byw”.

“Cred Plaid Cymru, wedi degawdau o erydu graddol ar hawliau a chyflogau gweithwyr, wedi cyfnod lle mae anghydraddoldeb wedi cynyddu yn y wladwriaeth Brydeinig, rhaid i ni yn awr ymdrin â’r anghydbwysedd hwn,” meddai Leanne Wood.

“Bydd Plaid Cymru yn cynyddu’r isafswm cyflog i’r un lefel a’r cyflog byw dros y Senedd nesaf – gan sicrhau codiad cyflog i fwy na 250,000 o weithwyr Cymru erbyn 2020.”

Cysylltiadau diwydiannol

Fe fydd araith Leanne Wood hefyd yn cyfeirio at ymrwymiad Plaid Cymru i sicrhau gwell cysylltiadau diwydiannol – rhan o raglen y blaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Meddai Leanne Wood: “Mae gweithwyr cyffredin wedi talu pris uchel am achub y bancwyr yn dilyn yr argyfwng ariannol, a’r hyn mae pleidiau San Steffan yn addo yn awr yw mwy o lymder, mwy o boen, a dim budd.

“Nid yw cael economi gystadleuol a safonau uchel o hawliau gweithwyr yn wrthwynebus i’w gilydd; yn aml, maent yn ategu ei gilydd fel y gallwn weld o wladwriaethau eraill yn Ewrop.

“Does dim rheswm pam na all hyn fod yn wir am y DG.”