Mae Cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol, Tina Donnelly wedi mynegi ei siom fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n cael ei defnyddio fel “pêl-droed wleidyddol”.

Ar raglen Sunday Politics y BBC, dywedodd fod y sefyllfa’n siomi nyrsys ledled Cymru ac yn arwain at ddiffyg ysbryd.

“Er siom i lawer o nyrsys, mae’n cael ei ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol.

“Mae nyrsys wedi digalonni yn sgil sylwadau a rhaid i hynny stopio.

“Mae’n bwysig cydnabod fod staff yn ceisio gwneud eu gorau.

“Mewn amryw ffyrdd, mae e [y Gwasanaeth Iechyd] ar fin chwalu.”

Galwodd ar yr holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i ddod i gytundeb ynghylch y ffordd ymlaen i’r Gwasanaeth Iechyd.

Cafodd sylwadau Tina Donnelly eu hategu gan lefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, a ddywedodd ei fod yn “anneniadol” i ddefnyddio’r Gwasanaeth Iechyd at ddiben sgorio pwyntiau gwleidyddol.

“Yn aml iawn, mae gwleidyddion yn cydweithio. Mae’n anneniadol defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd fel yna.

“Mae’n hollol iawn y dylid rhoi’r Gwasanaeth Iechyd o dan y chwydd-wydr. Pan fo problemau, mae’n iawn i ni gael goleuni arno fe.

“Does neb sydd y tu hwnt i ddefnyddio’r Gwasanaeth Iechyd at ddiben blaenoriaethu gwleidyddol. Dydw i ddim yn ymddiheuro am eisiau achub gwasanaethau.

“Mae angen gweledigaeth hirdymor arnon ni.”

Wrth gael ei holi am sefydlu grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad, dywedodd Elin Jones y byddai’n croesawu trafodaeth.

“Bydd yr holl bleidiau’n cyflwyno syniadau. Rhaid i’r syniadau hynny gael eu rhoi at ei gilydd.”

Cymharu

Fis Ebrill y llynedd, dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron mai Clawdd Offa yw’r ffin rhwng byw a marw.

Cafodd Cameron ei feirniadu yng Nghymru am ei sylwadau, ond dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol David Melding wrth Sunday Politics fod angen cymhariaeth rhwng Cymru a Lloegr.

“Mae’n iawn i ni gymharu ein gilydd.

“Rwy’n derbyn pryderon Tina, gan ei bod hi’n uchel ei pharch.

“Mae hi ond yn deg i ni graffu, ond ni ddylai’r neges bositif gael ei chladdu gan y feirniadaeth.”

Ychwanegodd Melding ei fod yn croesawu ymchwiliad i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac y byddai’n “ddefnydd da o arian”.

“Ni sy’n gofalu am iechyd ein hunain yng Nghymru. Rhaid i hynny fod yn brif ffocws. Ry’n ni i gyd am weld y Gwasanaeth Iechyd yn llewyrchu.”